Saturday, February 24, 2018

Gwilym Owen eto fyth

Wedi cael y myll am bod Jess Blair (neu ‘Jess bach’ chwedl yntau)wedi awgrymu y dylai bod mwy o ferched yng ngwleidyddiaeth Cymru mae Gwilym y tro hwn


Yn wir roedd Gwil wedi ypsetio cymaint nes iddo fynd a ni am dro o gwmpas Ynysoedd Prydain i dynnu sylw at yr hyn mae’n ei ystyried yn fethiannau mawr mewn sefyllfaoedd sy’n cael eu harwain gan ferched - y methiant i ddod i gytundeb rhwng pleidiau Gogledd Iwerddon, ffreao mewnol ym Mhlaid Cymru, colli seddi a gohirio’r alwad am refferendwm gan yr SNP a methiant y Toriaid i ennill Etholiad Cyffredinol 2017.


Rwan, mae’r ymarferiad yma’n un cwbl idiotaidd - hyd yn oed o dan safonau Gwilym. Mae’n esiampl dda o gau resymu.  Mae’r sefyllfoedd anodd mae Gwilym wedi eu dethol yn aml yn rhai sy’n cael eu gyrru gan amgylchiadau cymhleth, ond mae’n eu priodoli i statws arweinyddol merched mewn gwleidyddiaeth gan awgrymu bod merched - trwy ddiffiniad - yn dda i ddim am wleidydda ac arwain.


O ddethol sefyllfaoedd penodol yn ofalus gallem ddefnyddio’r un dechneg i ‘brofi’  bod pobl croen dywyll, dynion, Mwslemiaid, Iddewon, pobl hoyw, cefnogwyr Everton neu bobl sy’n bwyta pizza yn anobeithiol am redeg sefydliadau.  I ddweud y gwir gallem ddefnyddio’r math yma o resymu i gefnogi unrhyw ragfarn hyll rydym yn ei harddel. 


Does yna ddim problem o gwbl os ydi Gwilym Owen eisiau dadlau bod cwotau rhyw / ethnigrwydd ac ati yn amhriodol.  Does yna ddim problem chwaith iddo amddiffyn hawl pobl mewn oed mawr i wleidydda’n broffesiynol.  A dweud y gwir, dwi’n rhyw gytuno efo fo ynglyn a hynny - effeithlionrwydd gwleidydd ydi’r peth pwysig, nid blwyddyn ei eni.  Ond mae’n broblem pan mae’n defnyddio rhesymeg ysgol feithrin i awgrymu bod grwp mewn cymdeithas yn anaddas i arwain - ac yn arbennig felly os ydi’r grwp hwnnw’n un mwyafrifol.


Mae dyn yn deall pam bod Golwg yn teimlo y dylent gyflogi cefnogwr boncyrs o gibddall o’r Blaid Lafur - mae Cymru yn wladwriaeth un plaid i bob pwrpas, ac mae’r cylchgrawn yn ddibynnol  ar gymorthdaliadau cyhoeddus.  Ond ‘dydi rhai o’r agweddau mae Gwilym yn eu harddel ddim yn perthyn i’r Blaid Lafur, nag yn wir i’r unfed ganrif ar hugain.  Na ail hanner yr ugeinfed ganrif.  Mae cael amrywiaeth  barn yn un peth, ond mae rhoi llais i agweddau o’r Oesoedd Tywyll yn rhywbeth gwahanol.  Efallai ei bod yn bryd i Golwg ystyried beth ydi eu gwerthoedd creiddiol.

No comments: