Sunday, December 24, 2017

Rhagweld 2018 - rhan 1

Os ydi'r blynyddoedd diwethaf wedi dysgu unrhyw beth i ni - y ffaith nad yw'n syniad da ceisio rhagweld y dyfodol ydi un o'r rheiny.  Ond mi wnawn ni anwybyddu'r wers honno a cheisio edrych ymlaen ar un peth pob dydd rhwng rwan a'r flwyddyn newydd.  Mi gychwynwn ni efo Brexit - lle arall?



Fel 2016 a 2017 Brexit fydd yn dominyddu 2018 yn wleidyddol.  Bydd y DU yn parhau i ogor droi yn ei hunfan o ran deddfwriaeth seneddol, ond bydd rhaid dod i bendrefyniadau mawr yn gynnar yn y flwyddyn ynglyn a'r math o Brexit mae'r DU ei eisiau.  Bydd pob math o broblemau a chymlethdodau'n dod i'r amlwg, fel ddigwyddodd yn 2017 - ond y cwestiwn mawr fydd rhaid ei ateb ydi os bydd ffin rhyngwladol llawn rhwng y DU ac Iwerddon, ac os felly ymhle fydd y ffin.  

Mae'r DU eisoes wedi addo i'r UE na fydd ffin ar ynys Iwerddon, ac i'r DUP na fydd Gogledd Iwerddon yn cael ei thrin yn wahanol i weddill y DU.  Rhesymeg hynny ydi na fydd yna ffin ryngwladol go iawn ynghanol y Mor Celtaidd chwaith.  Os ydi hynny'n cael ei wireddu ni fydd y DU yn gallu crwydro ymhell oddi wrth safonau'r UE o ran masnach a bydd yn parhau i fod yn atebol i'r ECJ.  Bydd ei gallu i lunio cytundebau masnach efo gwledydd eraill wedi ei gyfyngu'n sylweddol hefyd.  Os digwydd hynny bydd llawer o Doriaid yn ofnadwy, ofnadwy o flin.  

Mae yna rhywun am gael ei siomi - ac yn ymarferol naill ai'r DUP neu Jacob Rees Mogg ac Iain Duncan Smith fydd yn siomedig. O'r ddau ddewis mae'n debyg y bydd May yn dewis siomi'r DUP - a bydd hynny yn di sefydlogi'r llywodraeth ymhellach - a bydd yna oblygiadau i Gymru wrth gwrs.

No comments: