Saturday, November 04, 2017

Y Byd ar Bedwar a Julian Ruck

Mae'n debyg nad oedd hi'n anisgwyl i'r cyfryngau Cymreig benderfynu dilyn eu meistri Prydeinig a rhoi cyfweliad i Julian Ruck - mae yn natur pethau bod ci yn dilyn ei feistr, hyd yn oed pan mae'n ymwybodol bod y dywydedig feistr yn mynd i'r cyfeiriad anghywir.  Dyna pam y penderfynodd Y Byd ar Bedwar bod barn Mr Ruck yn ychwanegu at ein dealltwriaeth o'r ddadl ynglyn a'r iaith Gymraeg a mynd ati i roi cyhoeddusrwydd iddo.

Rwan mae gan Mr Ruck, fel pawb arall hawl i'w farn ac mae yna bobl eraill sy'n rhannu'r farn honno yng Nghymru.  Ond dydi Mr Ruck ddim yn siarad tros neb yn benodol (ag eithrio criw bach sy'n myllio ar y We am yr iaith Gymraeg a charedigion yr iaith) - ac mae ei farn ymhell y tu hwnt i'r ddisgwrs wleidyddol yng Nghymru ynglyn a'r iaith.  Dydi'r cyfryngau  gan amlaf ddim yn mynd ati i chwilio am bobl sydd a barn sydd ar eithafion y sbectrwm yn y rhan fwyaf o feysydd.  Er bod dealltwriaeth y Bib yn Llundain o'r ddisgwrs ynglyn a'r Gymraeg yn llawer mwy amrwd na dealltwriaeth ITV yng Nghymru o'r ddisgwrs honno, aeth ati i  ddilyn arweiniad Llundain beth bynnag.  Mae'r math yma o waseidd-dra yn DNA y cyfryngau Cymreig mae gen i ofn.

Ta waeth, rydym yn gwybod hyn oll yn barod.  Yr hyn sy'n fwy dadlennol ydi'r ffordd y cafodd Mr Ruck ei holi.  Yn sylfaenol ei naratif ydi bod yr iaith Gymraeg yn marw a felly 'does yna ddim pwrpas taflu arian cyhoeddus i'w chyfeiriad.  Cafodd rhan o naratif Mr Ruck ei herio - union gost honedig y Gymraeg i'r trethdalwr - ond ni chafodd craidd y naratif ei herio, sef bod y Gymraeg yn marw.  Mae'r canfyddiad hwnnw wedi ei wreiddio yn y ffordd mae llawer o bobl yn edrych ar y Gymraeg, ac mae hynny mor wir am lawer o garedigion yr iaith nag yw am ei gelynion a phobl sy'n byw y tu allan i Gymru.  Y drwg efo'r canfyddiad  ydi nad oes yna lawer iawn o dystiolaeth i gefnogi'r canfyddiad mewn gwirionedd.

Mae yna sawl ffordd o wneud hyn - ond i bwrpas yr ymarferiad yma mi wna i dynnu fy nhystiolaeth i gyd o Arolwg Llywodraeth Cymru o'r Defnydd o'r Iaith Gymraeg 2013 i 2015.  

Er nad ydi pob dangosydd ar y graff cyntaf yn symud i'r cyfeiriad cywir - dydi'r darlun a geir yma ddim yn un o ddirywiad di gymysg - o bell ffordd.

Mae'r nifer sy'n siarad y Gymraeg yn aml ar gynnydd

Mae'r nifer sy'n siarad yr iaith yn rhugl ychydig yn uwch ac mae'r nifer sydd wedi eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ychydig yn uwch.




O edrych ar hanes y Gymraeg o ddechrau'r ganrif ddiwethaf ceir patrwm o ddirywiad mewn niferoedd sy'n siarad yr iaith hyd 1981 ac wedyn sefydlogi.  Mae'n wir bod rhywfaint o gwymp rhwng 2001 a 2011 - ond mae'r ffigwr yn uwch nag oedd yn 1981 a 1991.  Ar ben hynny mae yna le i gredu bod gor gyfrifo ymysg plant yn 2001. 


Mae'r patrwm demograffig hefyd yn eithaf iach - yn gyffredinol yr ieuengaf ydi rhywun sy'n byw yng Nghymru y mwyaf tebygol ydi o neu hi i allu siarad yr iaith.


O edrych ar y niferoedd o siaradwyr rhugl mae'r darlun yn gymysg, gyda chwymp yn y Gymru Gymraeg a chynnydd mewn lleoedd eraill, ond mae yna gynnydd sylweddol tros Gymru o edrych ar siaradwyr llai rhugl mae yna gynnydd anferth. 


Y bobl ieuengaf sydd fwyaf tebygol o ddefnyddio'r iaith yn ddyddiol - mae'n debyg oherwydd y system addysg.


A'r ieuengaf ydi rhywun y mwyaf llythrennog ydi o neu hi yn y Gymraeg.


Tros Gymru mae'r patrwm o faint o bobl sy'n defnyddio'r Gymraeg yn gymysg - er bod cynnydd tros y wlad yn ei chyfanrwydd.


Rwan rhag ofn bod camddealltwriaeth 'dydw i ddim yn honni am funud bod pob dim yn dda ar yr iaith.  Mae'r darlun yn gymysg ac yn gymhleth gyda rhai dangosyddion yn rhoi lle i fod yn wirioneddol obeithiol am ei dyfodol ynghyd a thystiolaeth ei bod o dan cryn dipyn o bwysau mewn rhai rhannau o Gymru.  

Ond yr hyn rydwyf yn ei ddweud ydi nad oes yna unrhyw sail tystiolaeth i'r naratif bod y Gymraeg am farw.  Yn anffodus mae rhai o garedigion yr iaith yn hyrwyddo'r canfyddiad hwn - ac yn hynny o beth maent yn derbyn naratif Mr Ruck a'i debyg.  Os oedd y Byd ar Bedwar yn teimlo eu bod wirioneddol angen holi Mr Ruck dylid bod wedi herio'r naratif yma yn hytrach na chwestiynu sail ei ffigyrau ariannol  (sydd hefyd yn ffug wrth gwrs).  Mae'r canfyddiad yma wrth wraidd y ffordd mae pobl fel Mr Ruck yn gweld y Byd - ac mae'n ganfyddiad cwbl ffug.













No comments: