Sunday, September 03, 2017

Ynglyn a'r nepotistiaeth yn y Bae

Rwan peidiwch a cham ddeall - does gen i ddim problem o gwbl efo cyflogau Aelodau Cynulliad - mae £64,000 y flwyddyn yn adlewyrchu pwysigrwydd y gwaith ac yn sicrhau bod ymgeiswyr addas yn rhoi eu henwau ymlaen.  Mae hefyd yn gyflog is na'r hyn enillir gan Aelodau Seneddol (£74,000) am wneud gwaith digon tebyg.

Ond mae yna botensial i Aelod Cynulliad elwa yn anuniongyrchol o'i swydd hefyd trwy gyflogi aelod o'i d / theulu.  Mae'r arfer yma yn rhyfeddol o gyffredin yn y sefydliad  - ac mae cyflogau pobl sy'n gweithio i Aelodau Cynulliad yn ddigon parchus.

Rhestraf yr ACau sy'n cyflogi aelodau o'u teuluoedd isod.

Mohammad Asghar (Tori)

Mae ei wraig Firandus yn cael ei chyflogi fel gweithiwr achos am 22.2 awr yr wythnos ac mae ei ferch, Natasha yn cael ei chyflogi am 22.2 awr yr wythnos fel Uwch Swyddog Cyfathrebu.

Michelle Brown (UKIP)

Cafodd ei brawd, Richard Baxendale ei gyflogi o Fehefin 2016 hyd fis Ionawr 2017 am 37 awr yr wythnos fel Gweithiwr Achos.

Angela Burns (Tori)

Cyflogir ei gwr, Andrew am 18.5 awr pob wythnos fel ymchwilydd a gweithiwr achos.

Andrew RT Davies (Tori)

Cyflogir ei wraig Julia am 37.5 awr fel Cymhorthydd Personol ac Ymchwilydd.

Rebecca Evans ( Llafur)

Cyflogir ei gwr Paul am 37.5 awr pob wythnos fel Rheolwr Swyddfa a'i chwaer Claire Stowell am 18.5 awr fel Cymhorthydd Swyddfa.

John Griffith (Llafur)

Cyflogir ei wraig, Alison am 37 awr fel Gweinyddydd.

Neil Hamilton (UKIP)

Cyflogir ei wraig, Christine fel Cynorthwy - ydd personol am 37 awr.

Mark Isherwood (Tori)

Mae ei wraig Hilary yn gweithio am bump awr pob wythnos fel Gweithiwr Achos.

Darren Miller (Tori)

Cyflogir ei wraig, Rebekah am 22.2 awr fel Gweinyddwr a Gweithiwr Achos.

Mark Reckless (Duw a wyr)

Mae ei wraig, Catriona yn gweithio iddo fel Uwch Gynghorydd.

David Rees (Llafur) 

Mae Angharad ei ferch yn gweithio iddo fel Ymchwilydd a Swyddog Cyfathrebu ac Ymchwilydd am 22.3 awr.

David Rowlands (UKIP) 

Mae ei wraig, Keryn yn gweithio iddo am 37 awr fel Pennaeth Swyddfa.

Joyce Watson (Llafur) 

Mae ei merch, Fiona Openshaw yn gweithio iddi am 14 awr fel Ymchwilydd.

Felly os ydi fy syms i'n gywir mae yna 5 Tori, 4 AC a etholwyd yn enw UKIP a 4 Llafurwr yn cyflogi aelodau o'u teulu.

Rwan petai'r Aelodau Cynulliad yn defnyddio eu pres eu hunain i gyflogi aelodau o'u teuluoedd eu busnes nhw a neb arall fyddai hynny.  Ond maent yn eu cyflogi efo pres cyhoeddus.  Ym mhob rhan arall o'r sector cyhoeddus  mae canllawiau caeth o ran cyflogi pobl - a dwi'n siwr bod yna ganllawiau caeth yn y Cynulliad i sicrhau mai'r person gorau i swydd sy'n cael ei benodi - ond bod na thrwy gyd ddigwyddiad hapus mae llawer o ACau yn cael mai aelodau o'u teuluoedd eu hunain ydi'r bobl gorau i weithio yn y swyddi maent yn gyfrifol am eu llenwi.

Mae'n eithaf digri mai'r Dde sydd fwyaf euog o hyn - y sawl sy'n honni bod defnydd effeithiol o bres cyhoeddus yn bwysig iddynt.  Ymddengys mai ystyr 'defnydd effeithiol o bres cyhoeddus' i nifer ohonynt ydi sicrhau bod cymaint a phosibl o bres cyhoeddus yn gwneud eu ffordd i'w coffrau nhw a'u teuluoedd.








1 comment:

Anonymous said...

Sut mae hyn yn cymharu mewn rhifau noeth a chyfanswm y treuliau cardiau credyd swyddogol a ddatgelwyd yn ddiweddar?