Monday, August 28, 2017

Llythyr i Golwg

Waeth i mi adael hwn yma rhag iddo beidio ymddangos yn y cylchgrawn.

Annwyl Olygydd

Pleser anisgwyl oedd cael fy hun yn cytuno efo Gwilym Owen (Awst 24).  Mae Mr Owen yn gwbl gywir i nodi bod gormod o'r cyfryngau cyfrwng Cymraeg  yn ddibynnol ar arian cyhoeddus, ac mae'n gywir hefyd i ddatgan nad ydi'r cyfryw gyfryngau yn ddigon parod i feirniadu a herio'r sawl sy'n ymarfer grym yng Nghymru.

Yn anffodus mae colofn Mr Owen yn Golwg yn rhan o'r broblem, ac nid yn rhan o'r datrysiad i'r graddau ei bod yn esiampl dda o'r hyn mae Mr Owen yn cwyno amdano.  

Mae'r Blaid Lafur yng Nghymru wedi ennill pob etholiad cyffredinol ers bron i ganrif, mae wedi llywodraethu ym Mae Caerdydd ers sefydlu datganoli, ac mae'n ddi eithriad yn rheoli mwy o gynghorau lleol na'r un blaid wleidyddol arall. Mae aelodau'r Blaid Lafur yn britho cyrff cyhoeddus yng Nghymru.  Ac eto mae colofn Mr Owen yn osgoi herio deiliaid y grym go iawn  ac yn hytrach yn canolbwyntio ar feirniadu un o'r gwrthbleidiau sydd a chymharol ychydig o rym.

Yn gywir

Cai Larsen

No comments: